top of page

About | Amdanaf

Portrait of Catherine Fookes stood in Monmouth high street

Eich Aelod Seneddol dros Sir Fynwy

Mae'n fraint cael fy ethol yn Aelod Seneddol dros Sir Fynwy. Dwi'n hynod o ddiolchgar am yr ymddiriedaeth rydych chi wedi'i roi ynof fi, a dwi'n addo i weithio'n ddiflino ar eich rhan.

Dwi wastad yn ffocysu ar wrando ar eich pryderon, cymryd camau ar y materion sy'n bwysig i chi, ac ymladd eich cornel yn San Steffan.

Mae Sir Fynwy wedi bod yn gartref i mi ers 25 mlynedd, a nawr fel eich AS, dwi'n ymrwymo i'w wneud yn lle cryfach, tecach a gwyrddach i bawb.

Boed yn cefnogi busnesau lleol, glanhau ein hafonydd, neu’n ymladd dros degwch, byddaf yn parhau i wneud popeth y gallwn i sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn gallu ffynnu.

Fy mhrofiad

Cyn dod yn eich AS, gweithiais fel Prif Weithredwr i elusen genedlaethol dros Fenywod a Chydraddoldebau, lle gweithiais i wella bywydau menywod a theuluoedd ledled Cymru a'r DU.

 

Yn lleol, roeddwn i'n gynghorydd sir, lle hyrwyddais bolisïau i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi cymunedau lleol.

 

Roeddwn i hefyd yn Llywodraethwr dros ysgol fy mab, Ysgol Gyfun Trefynwy, er mwyn sicrhau bod ein plant yn derbyn yr addysg orau sy'n bosibl.

Fy Mlaenoriaethau

Catherine Fookes MP speaking in Parliament (Photo credit to Parliamentary Photographers)

Hybu'r Economi

Mae Sir Fynwy yn gartref i lwyth o fusnesau anhygoel, o siopau teuluol i fusnesau cychwynnol cyffrous. Byddaf yn gweithio i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth sydd ei hangen i dyfu a ffynnu wrth greu swyddi â chyflog da i bobl leol.

Drone shot of Monmouthshire

Diogelu ein Hamgylchedd

Credaf taw Sir Fynwy yw'r rhan harddaf y DU. Mae ein Hafon Wysg ac Afon Gwy yn hanfodol i'r harddwch hwnnw, ond maent dan fygythiad difrifol gan lygredd. Mae angen gweithredu ar frys i lanhau ein hafonydd a diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Catherine Fookes sat on a chair talking to a young student

Brwydro dros degwch

Rwyf wedi treulio fy ngyrfa’n hybu hawliau menywod a thaclo anghydraddoldebau, a byddaf yn parhau'r frwydr hon yn San Steffan i wneud yn siŵr bod pawb yn Sir Fynwy yn cael y cyfle i lwyddo, beth bynnag bo'u cefndir.

Byddaf wastad yn gwrando ar eich pryderon, yn gweithio'n galed ar eich rhan, a sefyll lan dros Sir Fynwy bob dydd. Os oes angen cymorth neu os hoffech rannu eich meddyliau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi.

Fy Ngweithgareddau yn San Steffan

Monmouthshire Drone Photo.jpg

Derbyn diweddariadau misol o fy ngwaith fel eich AS

bottom of page